Cafodd Cylch Meithrin Trawsfynydd ei sefydlu dros 50 mlynedd yn ôl.

Caiff ei arolygu yn rheolaidd gan ESTYN, Arolygiaeth Gofal Cymru a Mudiad Ysgolion Meithrin. Rydym yn ymfalchïo yn y berthynas gref rydym ni wedi’i meithrin gyda rhieni a gwarcheidwaid dros y blynyddoedd, ac mae gennym ni draddodiad cryf o ddarparu addysg cyn ysgol o safon uchel.

Rydym yn croesawu’r rhieni/gwarcheidwaid i ymwneud â phob agwedd o fywyd Cylch Meithrin Trawsfynydd ac yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth parhaus. Rydym hefyd yn gweithio yn agos gyda'r Ysgol gynradd leol (Ysgol Bro Hedd Wyn) ac yn ymuno gyda nhw mewn gweithgareddau a theithiau.

Fel rhieni ein hunain, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn Cylch Meithrin Trawsfynydd.

Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref. Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddyflwydd a hanner oed hyd at yr amser byddent yn cychwyn dosbarth derbyn yn yr ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gweithgareddau: 

Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi eu gwreiddio yng ngofynion pedwar maes Canllawiau Senedd Cymru ar gyfer plant cyn ysgol:

  • Rhifedd

  • Llythrennedd

  • Corfforol Cymdeithasol

Dyma esiampl o’r math o weithgareddau fydd yn cael eu cynnal yn y Cylch:

  • Chwarae a chymdeithasu â phlant eraill

  • Dysgu drwy chwarae tu fewn a thu allan

  • Chwarae â thywod, dŵr, toes, tŷ bach twt, jig-sos, teganau, gemau bwrdd, beiciau

  • Darllen stori, canu a dawnsio

Rhoddir pob cymorth i bob plentyn gyrraedd ei botensial / photensial

Oriau / Ffioedd (o Medi 2023 ymlaen)

Bydd y cylch ar agor bob dydd (yn ystod tymor ysgol) Dydd Llun i Ddydd Gwener ac yn cynnig tri opsiwn:

9:00yb - 11:00yb (£7)

neu

9:00yb - 12:30yp (£9)

neu

9:00yb - 1:00yp (£10)

Mae'r ffioedd hyn yn unol â chyfraddau Llywodraeth Cymru ac yn cael eu gwerthuso yn flynyddol. 

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed). 

Darllenwch fwy am y Cynnig Gofal Plant Cymru yma.

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth

Lleoliad 

Cylch Meithrin

Trawsfynydd,

YMCA,

Cefn Gwyn,

Trawsfynydd,

LL41 4SG.

Gan ddilyn rheoliadau AGC, mae gofyn i gymhareb staff i blant gael ei ddilyn sef 1:8 dros dair oed, 1:4 i blant dwy oed. Mae’r Cylch yn derbyn plant newydd o’r diwrnod y byddant yn troi’n 2 oed, os oes lle.

  • Anti Mary

    Arweinydd

    Anti Mary ydw i, fi yw arweinydd y cylch meithrin ers Ionawr 2022. Rwyf wedi gweithio mewn gofal plant ers 2009. Rwyf wedi rheoli nifer o leoliadau o rai mawr iawn i grwpiau chwarae cymunedol bach yn Lloegr hyd at 2020.

    Symudais i a fy nheulu i Gymru ym mis Hydref 2020. Roedd yn bwysig i mi wrth symud fy mod yn cofleidio ffordd newydd o fyw ac ymgolli yn y gymuned leol a diwylliant Cymreig. Rydw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers bron i ddwy flynedd.

    Y rhan orau o fy swydd yw gallu treulio amser gyda’r plant a’u gwylio’n datblygu’n bobl ifanc hapus, galluog.

  • Anti Awen

    Cynorthwydd

    Anti Awen ydw i, rwyf wedi bod yn cynorthwydd yn y cylch ers Medi 2022 ac yn mwynhau pob eiliad ohono. Astudiais gwrs lefel 2 a 3 Iechyd a Gofal yng ngholeg Meirion Dwyfor yn Nolgellau ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Y Moelwyn.

    Rydw i yn astudio cwrs Lefel 2 a 3 Gofal Chwarae , Dysgu a Datblygiad Plant ers mis Ebrill 2023 tra’n parhau i weithio yn y cylch.

    Rydw i’n byw ym Mlaenau Ffestiniog ac yn mwynhau treulio amser gyda fy nheulu a’n ffrindiau.

    Rwyf yn greadigol iawn ac wrth fy modd yn helpu’r plant gyda gwaith crefft yn y cylch. Rydw i wrth fy modd yn treulio amser ar y llawr yn chwarae a sgwrsio efo’i plant.

  • Anti Meinir

    Cynorthwyydd

    Rydw i wedi fy ngeni a’n magu yn Nhrawsfynydd. Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â’r cylch ers i fy meibion fynychu yn 2006, yn gyntaf fel Trysorydd a pherson cofrestredig yna yn gwirfoddoli fel dwylo ychwannegol cyn cwbwlhau cwrs lefel 3 Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yn 2013 a chael swydd Cynorthwyydd.

    Tu allan i’r cylch rwyf yn aelod o Barti canu Lliaws Cain, ac wrth fy modd yn ymarfer, cystadlu mewn Eisteddfodau a diddannu mewn cymunedau ar draws y sir gyda nhw.

    Yn y cylch rydw i wrth fy modd yn yr ardal tu allan gyda’r plant, boed yn chwarae yn y gegin fwd, chwarae ‘Faint o’r gloch Mr Blaidd’ neu arbrofi gyda offer adeiladu mawr. Rwyf hefyd yn hoff o ganu rhigymau i ddatblygu iaith y plant.

    Mae gen i brofiad o ddelio gyda Anghenion Dysgu Ychwannegol ac yn gwybod mor bwysig yw ymyrraeth gynnar os oes gan rhywun unrhyw bryderon.

Cysylltwch â ni.

ebost: cylchmeithrintraws@btinternet.com